Mae
Cyfeillion Amgueddfa Cymru-National Museum Wales yn falch iawn o
groesawu dychweliad Trevor Fishlock a oedd rai blynyddoedd yn ôl
oedd yn siaradwr gwadd yn ein cyfres o ddarlithoedd a pherfformiadau
achlysurol gyda'r nos. Bydd Trevor yn rhoi ei sgwrs yn Narlithfa
Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ar ddydd Gwener 22 Mai,
2015 am 7.00yh.
Mae Trevor mor adnabyddus fel nad
oes angen ei gyflwyno, gan ei fod yn awdur a darlledwr toreithiog, gyda
nifer o gyfresi teledu fel yr enwog eang 'Fishlock Cymru' yn tystio at
ei enw da. Fel newyddiadurwr, roedd Trevor yn ohebydd tramor yn y Daily
Telegraph ac yn fwy diweddar yn The Times.
Yn
gysylltiedig â'i sgwrs, mae llyfr diweddaraf Trevor ‘A Gift of
Sunlight – the Fortune and Quest of the Davies Sisters of Llandinam’ yn
adrodd hanes y chwiorydd sy'n enwog am eu cymynroddion o'r paentiadau
Argraffiadol ac eraill sy'n ffurfio craidd y casgliad byd-enwog a
gedwir gan Amgueddfa Cymru.
Mae tocynnau ar gyfer yr achlysur arbennig ar gael am gost o £36 i gynnwys y sgwrs a'r cinio sy'n dilyn, gan gynnwys gwin.
Mae'r digwyddiad ar agor i'r rhai nad ydynt yn aelodau o'r Cyfeillion a
dymunant ddod ac mae croeso archebu ar gyfer byrddau o 8 neu 10 lle.
Gwisg: siwtiau lolfa ar gyfer dynion. Bydd parcio'n rhad am ddim i
fynychwyr yn y maes parcio y tu cefn i'r Amgueddfa.
Os hoffech fynychu, llenwch y bonyn isod, ei anfon gyda'ch siec o blaid
Cyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru at Roger Gagg, 15 Llandennis
Avenue, Cyncoed, Caerdydd CF23 6JD. (Ffôn: 02920 752,338).
Amgaewch amlen barod â stamp.
|