Amdanom ni
Sgwrs
Digwyddiadau Ymunwch
Saesneg



Dydd Mercher Mai 6 2015

Ymweliad:
Bradford-on-Avon a Lacock Abbey, Wiltshire




<>
Mae adeiladau a phensaernïaeth Sioraidd Bradford-on-Avon yn ei wneud yn boblogaidd gyda thwristiaid. Eglwys Sant Laurence yw un o nifer cymharol fach o eglwysi Eingl-Sacsonaidd sydd wedi goroesi yn Lloegr nad yw'n dangos ail-adeiladu na diweddaru canoloesol.

Nodwedd nodedig o Bradford-on-Avon yw'r ysgubor degwm enfawr y rhestrir yn radd II. Adeiladwyd yr Ysgubor Ddegwm Sacsonaidd yn y 14eg ganrif; mae'n 180 troedfedd o hyd a 30 troedfedd o led.

Tyfodd canol y dref wlân o amgylch y rhyd ar draws yr afon Avon. Cafodd hyn ei ategu yn y cyfnod Normanaidd ger y bont a welwn heddiw lle saif adeilad bychan a oedd yn wreiddiol yn gapel, ond a ddefnyddir yn ddiweddarach fel carchardy'r dref. Mae'r ceiliog gwynt ar ben yn cymryd ffurf gwyniad, symbol Cristnogol cynnar.

Mae pentref Lacock yn enwog am ei strydoedd hardd, ei hadeiladau hanesyddol ac yn fwy diweddar fel lleoliad teledu a ffilm. Mae'r Abaty, a leolir yng nghanol y pentref yn ei erddi coetir ei hun, yn dŷ gwledig anarferol gyda gwahanol arddulliau pensaernïol. Cafodd ei adeiladu ar sylfeini cyn lleiandy ac yn ddiweddar bu'n rhan o gynhyrchiad godidog y BBC, 'Wolf' Hall". Mae ystafell de'r Ymddiriedaeth Genedlaethol yn cwblhau croeso'r lleoliad.

Dyma raglen y dydd;
  8.30 am.   
Gadael blaen yr Amgueddfa Genedlaethol ym Mharc Cathays.
  8.45 am.   
Gadael Wild Gardens Road, CF23 5QW, ar ochr ogleddol Llyn Parc y Rhath.     
10.45 am.    Cyrraedd Bradford-on-Avon
  1.30 pm.    Gadael Bradford-on-Avon.
  2.00 pm.    Cyrraedd Lacock Abbey.
  5.00 pm.   
Gadael am Gaerdydd.

Cyfanswm y tâl am y diwrnod yw  £20.00 sy'n cynnwys y goets ac arian rhodd y gyrrwr.Bydd dim tâl am fynediad i Lacock Abbey i aelodau'r Ymddiriaeth Genedlaethol, ac mae pris gostyngedig Grŵp, sef £10, am y rhai sydd ddim yn aelodau.

Pe hoffech ymuno â ni, anfonwch eich siec yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru' a ffurflen gais wedi'i chwblhau os gwelwch yn dda at;
Dorn Swaffield, Lower House Barns, Michaelston-le-Pit, Dinas Powys, Bro Morgannwg. CF64 4HE.
Ffôn: 029 2051 3956. E-byst at “Dorn.swaffield@gmail.com”.

Pe byddai gormod o alw am yr ymweliad, bydd detholiad ar hap o'r ceisiadau yn cael eu cynnal, a bydd y rhai sydd yn anlwcus yn derbyn talebau blaenoriaeth ar gyfer digwyddiad yn y dyfodol.

Cofiwch amgáu amlen barod â stamp dim ond os nad oes gennych gyfeiriad E-bost neu os ydych am 'Daleb Flaenoriaeth' ar gyfer digwyddiad yn y dyfodol.

At: Gyfeillion Amgueddaf Cymru
Ymweliad â Bradford-on-Avon a Lacock Abbey
Dydd Mercher Mai 6 2015

Enw ……………………………………………………………………….………………….......

Cyfeiriad …………………………………………………………………….…………………...

………………… Cod post …………Ffôn  …….…………...E-bost …………………………

Cadwch  ..…...  lle ar gyfer y digwyddiad uchod i ni os gwelwch yn dda.

Amgaeaf siec am £………..  ( £20.00 y person.) ac amlen barod â stamp.

Dewiswch:      Ymunaf / Ymunwn â'r coets:    ar grisiau'r  Amgueddfa / yn Wild Gardens Road, Parc y Rhath.





Mae Cyfeillion Amgueddfa Cymru yn aelod cyswllt o Gymdeithas Cyfeillion Amgueddfeydd Prydain (BAfM)

 Cliciwch yma os ydych am  ymuno â Chyfeillion yr Amgueddfa

Rhif cofrestru fel elusen 701990


Amdanom ni Digwyddiadau Gorffennol
Ymunwch
Saesneg