Cynhelir
y Derbyniad a Chnio Nadolig Blynyddol yn Neuadd Fawr Amgueddfa
Genedlaethol Cymru ar ddydd Llun Rhagfyr 7 am 12.15yh ar gyfer 1.30yh.
Codir
tâl o £29 y person am y digwyddiad sydd ar gyfer aelodau Cyfeillion yr Amguaeddfa yn unig, a chânt eu croesawu gyda
ddiodyn di-dâl. Bydd gwin i gydfynd â'r bwyd hefyd ar gael. Bydd
perfformiad gan fyfyrwyr y Coleg Brenhinol Celf a Dram Cymru yn dilyn y
cinio. Disgwylir y bydd rhai mannau parcio ar gael ym Mae Parcio'r
Amgueddfa.
Nodwch eich dewisiadau bwydlen ar y ffurflen archebu a dychwelwch hi at:
Richard Carter, 5 The Close, Llanisien, Caerdydd CF14 5NG (Ffôn: 02920
765177 Symudol: 07921811996).
i gadw costau gweinyddu i lawr, ni anfonir tocynnau.
|