![]() |
|

| Y
tro diwethaf i Dr David Jenkins ddifyrru’r Cyfeillion, ei bwnc oedd y
teulu Reardon Smith a’i gysylltiad â’r theatre ddarlithio. Y tro
hwn, bydd yn sgwrsio am ei brosiect ymchwil cyfredol, sef paratoi
argraffiad o lyfr llythyrau un o feistri llong Caerdydd, i’w gyhoeddi
yn 2016 gan Gymdeithas Cofnodion De Cymru. Gwyddom i gyd fod llongau
Caerdydd yn allforio glo yn nechrau’r 20fed ganrif ond i ble yr aent
wedyn am lwythi dychwelyd ar ôl cael gwared ar eu glo? Bydd y
sgwrs ddarluniedig hon yn cyfleu bywyd- bob- dydd meistr un o longau
cargo Caerdydd yn y cyfnod, a’r problemau a wynebai ef mewn
porthladdoedd mor amrywiol â Sulina a Colastine. Wyddoch chi
ymhle mae’r lleoedd hyn? Wel, dewch draw i gael yr atebion! |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris
gostyngedig hwn, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon
gyda’ch siec at Ann Saer,15 Highfields, Llandaf, Caerdydd CF5 2QA
(ffôn 029 2056 2756: ebost annsaer@talktalk.net) erbyn dydd
Mercher 18 Chwefror. Noder: os byddwch yn anfon cais am fwy nag un
digwyddiad, anfonwch siec ar wahan am bob un, os gwelwch yn dda. I
arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch
â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd
am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd
croeso cynnes iddynt.
Note: Cynhelir ein sgyrsiau fel arfer yn narlithfa Reardon Smith Lecture Theatre, gan ddechrau am 10.30yb.
Bydd tocynnau am y sgyrsiau, sydd yn agored i'r cyhoedd, ar gael wrth y drws. Pris mynediad yw £10 sydd yn cynnwys te/coffi a bisgedi ar ôl y sgwrs. Caiff Cyfeillion sydd yn archebu a thalu ymlaen llaw ostyngiad i £8. |
||
| Cyfeillion Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Dr David Jenkins: ‘I hope to have a good passage – the business letter book of Captain David Jenkins, 1902-11’ Sadwrn 21 Chwefror 2015 am 10.30 yb yn Theatr Ddarlithio Reardon Smith, Parc Cathays, Caerdydd Carwn i chi gadw………l/le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £……….(yn daladwy i Cyfeillion Amgueddfa Cymru). Enw/au………………………………………………………………………………………………… Cyfeiriad………………………………………………………………………………………………. Codpost………………….Tel……………………….ebost…………………………………………... |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |