![]() |
|

| Cyflwyna’r
ffilm hon gipolwg ar gangen amgueddfaol Parc Cathays fel yr oedd yn
ystod y 1960au. Mae John Ormond (Thomas) yn adnabyddus fel bardd
Eingl-Gymreig yr oedd ei waith yn ymateb mewn ffyrdd dychmygus a
thelynegol i hanes a diwylliant Cymru, ymysg pynciau eraill. Ond roedd
Ormond, yn ogystal â bod yn fardd, hefyd yn artist dawnus drwy
gyfrwng ffilm. Erys y ffilmiau dogfennol a luniodd a’u cynhyrchu o fewn
i Uned Ffilm BBC Cymru, Caerdydd, yn eitemau creadigol cofiadwy. Ceir
ynddynt hwythau fyfyrdodau treiddgar ar hanes a diwylliant ein gwlad. Yn ystod y sesiwn dangosir a thrafodir un o glasuron Ormond, sef A Bronze Mask: A film in Elegy for Dylan Thomas. Yr hyn a ddethlir ynddi, yn null unigryw Ormond, yw cyflwyno masg angau Dylan Thomas, o waith David Slivka, i Amgueddfa Cymru. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec at Ann Saer, 15 Highfields, Llandaf, Caerdydd CF5 2QA (ffôn 029 2056 2756; ebost annsaer@talktalk.net) erbyn dydd Gwener 14 Awst. Noder: os byddwch yn anfon cais am fwy nag un digwyddiad, anfonwch siec ar wahân am bob un, os gwelwch yn dda. I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Dr Keiron Smith ‘Archive Films of NMW Cardiff: John Ormond’s A Bronze Mask: A Film in Elegy for Dylan Thomas’ (1969) Dydd MERCHER AWST 19 2015 am 10.30yb yn Narlithfa Reardon Smith, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i Cyfeillion Amgueddfa Cymru). Enw(au) ……………………………………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………………………………………………………………………………. Cod post …...………………. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |