Cafodd
y Diwrnod Astudio hwn ei drefnu drwy gydweithrediad Adrannau Celf ac
Archeoleg Amgueddfa Cymru. Bydd cyfle i archwilio safle’r plasty a’r
parc fel y’u darlunnir ym mheintiadau tirlun Margam sydd i’w gweld yn
Oriel 10, Amgueddfa Cymru, Caerdydd, yn dangos yr ystad fel yr oedd tua
1700, a hefyd ddarganfod mwy am deulu’r Manseliaid. Cawn ein
tywys gan Oliver Fairclough a Dr Mark Redknap. Dyma fras amcan o’r
amserlen arfaethedig:
10.30 yb Cyrraedd ar eich liwt eich hunan y maes
parcio ym Mharc Gwledig Margam (trowch oddi ar yr M4 ar Gyffordd 38 a
dilyn yr arwyddion), a chwrdd wrth y Caban Mynedfa i gerdded at yr
Orendy i gael paned o goffi.
Bydd parcio am ddim ac efallai y gallech rannu car; cysylltwch ag Ann Saer).
11.00 Ymweld â
beddrodau’r teulu yn yr eglwys a safle’r abaty a’r plasty gynt
12.45 yp Byrbryd yn yr Orendy
1.45
Archwilio’r castell Gothig Fictoraidd , sydd yn cael ei adfer ar hyn o
bryd
2.30 Ymweld
â’r ty Citrus newydd, neu daith fer o gwmpas y parc gydag
un o Gyfeillion Parc Margam
3.30- 4.00 Paned o de cyn ffarwelio
Yn anffodus, rhaid cyfyngu ein nifer i 30 o bobl yn unig, gyda
lleiafswm o 20 er mwyn cynnal y costiau. Felly, y cyntaf i’r felin
gaiff falu! Bydd angen gwisgo esgidiau addas ar gyfer cerdded,a
chofiwch am ambarel hefyd. Pris y diwrnod fydd £16, sydd yn
cynnwys coffi a phice bach, byrbryd, cyfraniad i’r Parc ac i Amgueddfa
Cymru, a chynnal costau’r tywyswyr.
Os hoffech ymuno â ni, a wnewch chi lenwi’r daflen isod a’i
dychwelyd gyda’ch siec (sy’n daladwy i ‘Cyfeillion Amgueddfa
Cymru’) ynghyd ag amlen yn dwyn stamp os nad oes gennych
gyfeiriad ebost) at Ann Saer, 15 Highfields, Llandaf, Caerdydd CF5 2QA
erbyn dydd Gwener,
12 Mehefin 2015. (ffôn: 029 2056 2756; ebost: ann.saer@talktalk.net)
|
|
Cyfeillion Amgueddfa Cymru: Diwrnod Astudio Margam, Iau 18 Mehefin 2015
Enw/au……………………………..Cyfeiriad…………………………………………
Cod Post…………… Ffôn ………………ebost………………………………………..
Carwn archebu ……(l)le ar gyfer y digwyddiad uchod.. Amgaeaf amlen â stamp a’m cyfeiriad,
a siec am £……. yn daladwy i Cyfeillion Amgueddfa Cymru.
Cadarnhaf fy mod/ein bod yn aelod/au o Gyfeillion Amgueddfa Cymru. ………………………
|