Amdanom ni
Sgwrs
Digwyddiadau Ymunwch
Saesneg



Gwener 26 Chwefror 2016
3yh yn Ystafell Oriel, y tu cefn i'r bwyty
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd


Parti Te Gŵyl Dewi
yn benodol ar gyfer Cyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru
gyda'n gwestai arbennig:

  Bethan Nia

Bethan Nia
Image: www.bethannia.co.uk

Bydd parti te cofio'n nawddsant eleni yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener Chwefror 26, 2016 yn Ystafell Oriel sydd y tu cefn i fwyty'r Amgueddfa.

Darperir te ysgafn ac rydym yn ffodus i groesawi Bethan Nia, y delynores a chantores cerddoriaeth draddodiadol a fydd yn perfformio caneuonyn yn y ddwy iaith ar gyfer dathlu gŵyl ein nawddsant. Mae Bethan wedi ymddangos mewn digwyddiadau mor amrywiol â'r Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl Glastonbury, a Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient yn Llydaw. Caiff cynorthwyed yn y perfformiad gan Meurig Williams, sy'n aelod o'r Cyfeillion.

Mae'n angenrheidiol i anfon cais ymlaen llaw, gyda thaliad o £12 y pen. Gan ystyried y galw a ddisgwylir, cyfyngir mynediad i aelodau'r Cyfeillion yn unig. Er mwyn tegwch, bydd pleidlais yn cael ei gynnal os bydd nifer y rhai sy'n gwneud cais yn fwy na'r llety cyfyngedig sydd ar gael yn yr Ystafell Oriel. Bydd Cyfeillion yn cael gwybod am y llwyddiant neu fethiant eu cais mewn da bryd.

Os hoffech fynychu, llenwch y bonyn isod a'i dychwelyd gyda'ch siec ac amlen hunan-gyfeiriedig â stamp at:
Jane Gagg at 15 Llandennis Avenue, Cyncoed, Caerdydd CF23 6JD. Ffôn: 02920 752338.
Cyfeillion Amgueddfa Cymru

Parti Te Gŵyl Dewi
 
Gwener Chwefror 26  2016 am 3yh yn Ystafell Oriel (ger y freutur), Parc Cathays, Caerdydd

Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i Cyfeillion Amgueddfa Cymru).

Enw(au) ………………………………………………………………………………………………

Cyfeiriad ……………………………………………………………………………………………….

Cod post …...………………. Ffôn ………………………. Ebost …………………………………

Cadarnhaf fy mod i / ein bod ni yn aelod o Gyfeillion yr Amgueddfa.

Lawrlwytho'r manylion hyn a ffurflen archebu (rhaid i chi fod yn Gyfaill)
Hoffech ymuno â Chyfeillion yr Amgueddfa?



Mae Cyfeillion Amgueddfa Cymru yn aelod cyswllt o Gymdeithas Cyfeillion Amgueddfeydd Prydain (BAfM)
 
Cliciwch yma os ydych am  ymuno â Chyfeillion yr Amgueddfa
 
Rhif cofrestru fel elusen 701990


Amdanom ni Digwyddiadau Gorffennol
Ymunwch
Saesneg