![]() |
|
![]() |
Augustus John Dorelia McNeill yn yr Ardd yn Alderney Manor [Dorelia McNeill in the Garden at Alderney Manor] Delwedd: http://www.amgueddfacymru.ac.uk |
![]() |
| Roedd yr arlunwyr Cymreig enwog
Gwen ac Augustus John yn chwaer a brawd, ond dilyn llwybrau tra
gwahanol i’w gilydd a wnaeth eu llwybrau artistig. Bydd Dr McIntyre,
sy’n Guradur hŷn ar Brintiau a Lluniadau yn Amgueddfa Cymru Caerdydd yn
trafod y cyffelybiaethau a’r gwahaniaethau mewn sgwrs a fydd yn priodi
â’r arddangosfa yn Oriel 13 ‘Ffocysu ar Augustus John’. Bydd yr
arddangosfa yn cynnwys lluniadau ac ysgarthiadau o gasgliadau presennol
yr Amgueddfa o waith yr arlunydd, yn ogystal â benthygiadau o gasgliad
preifat pwysig. A hwythau wedi eu magu yn Ninbych-y-pysgod, aeth y ddau, Gwen (i876-1939) ac Augustus (1878-1961) yn fyfyrwyr i’r Ysgol Slade, Llundain, yn y 1890au. Erbyn iddo gyrraedd 25 oed Augustus oedd arlunydd cyfoes amlycaf Prydain yn ei ddydd. Câi ei ddawn ei gymharu ag eiddo Michelangelo, Gauguin a Matisse. Enillodd hefyd statws chwedlonol am ei fuchedd fohemaidd a’i gylch ffrindiau enwog. Yn gyferbyniol, dim ond yn gymharol ddiweddar y cafodd dalentau Gwen eu cydnabod. Mae ei thechneg ofalus ynghyd â’i phalet cynnil o borffor golau a llwydlas yn gwbl wahanol i’r brafwra llachar sy’n nodweddu lliwiau Augustus. Nodir hefyd ei pherthynas angerddol â Rodin ym Mharis. |
||
| Y tâl mynediad, i gynnwys
coffi a bisgedi yn Ystafelloedd Oriel ar ôl y sgwrs, yw £8 i’r
Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y gostyngiad tâl, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec erbyn dydd Mercher 20 Ionawr at: Gwen Williams, 57 Beulah Road, Rhiwbina, Caerdydd CF14 6LU (ffôn: 029 2062 0094 / 07802 437316; ebost: gwendolynw@tiscali.co.uk). Noder: os byddwch yn anfon cais am fwy nag un digwyddiad, anfonwch siec ar wahân am bob un, os gwelwch yn dda. I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Dr Beth McIntyre: ‘Augustus and Gwen John, United and Divided by their Art’ Dydd Sadwrn Ionawr 23 2016 am 10.30yb yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i Cyfeillion Amgueddfa Cymru). Enw(au) ……………………………………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………………………………………………………………………………. Cod post …...………………. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |