![]() |
|

| Ydych chi erioed wedi meddwl am y gofal cyson ac amddiffyniad y mae angen diogelu gwrthrychau gwerthfawr rhag niwed? Yn y cartref, mae hen ffotograffau yn diflannu yn eu fframiau, mae gwyfynod yn ymosod ar ddillad yn y cwpwrdd dillad, mae pryfed arian yn dod o hyd i gartrefi mewn ystafelloedd ymolchi ac mae angen caboli eitemau arian gwerthfawr yn gyson er mwyn atal tarneisio. Nid yw'r heriau a wynebir yn y cartref yn fawr o'u cymharu ag edrych ar ôl tair miliwn o wrthrychau'r Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gall liwiau mewn tecstilau a phaentiadau pylu drwy amlygiad i olau a gall gwrthrychau fynd yn frwnt wrth gael eu trin gan lawer o bobl. Ar ben hynny, mae amrywiadau lleithder, plâu a llygryddion dan do yn fygythiad parhaus i'n casgliadau. Bydd y sgwrs hon yn cyflwyno'r syniad bod atal difrod yn llawer gwell ar gyfer gwrthrychau gwerthfawr ac yn fwy cost-effeithiol na threulio amser ac adnoddau yn atgyweirio difrod, sydd yn aml yn troi allan i fod yn amhosibl. Bydd yn dangos i chi rhai delweddau erchyll o'r hyn a allai fynd o'i le mewn casgliadau amgueddfeydd ond hefyd, yn galonogol, rhai enghreifftiau cadarnhaol iawn o'r hyn mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ei wneud er mwyn osgoi dirywiad tebyg i'n casgliadau cenedlaethol. Mae Christian Baars wedi dal swydd Uwch Gadwraethydd Ataliol yn Amgueddfa Cymru er mis Mai 2014, ac mae'n gwneud gwaith ymchwil ar wella diogelwch a gofalu am y casgliadau. Mae ganddo PhD mewn Geocemeg a Phaleontoleg, ac MSc mewn Gofalu am Gasgliadau. Dechreuodd weithio i Amgueddfa Cymru yn 2004 yn yr Adran Ddaeareg fel cyflwynydd ffosil ac ymchwilydd. Yn 2012 daeth yn Rheolwr Prosiect Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru ar gynllun archwilio casgliadau yn ugain o amgueddfeydd lleol ac yna gwella mynediad iddynt cyn dychwelyd i Amgueddfa Cymru yn ei swydd bresennol. |
||
| Y tâl mynediad, i gynnwys
coffi a bisgedi yn Ystafelloedd Oriel ar ôl y sgwrs, yw £8 i’r
Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y gostyngiad tâl, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec erbyn dydd Mercher 12 Hydref at: Diane Davies, 9 Cyncoed Rise, CAERDYDD CF23 6SF. Ffôn: 029 2075 2464 I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Cadwraeth Ataliol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Sgwrs gan Christian Baars Dydd Sadwrn 15 Hydref 2016 am 10.30yb yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa Cymru'). Enw(au) ……………………………………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………………………………………………………………………………. Cod post …...………………. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |