![]() |
|

| Cyfrir
Maestro Carlo Rizzi ymhlith arweinyddion blaenllaw y byd heddiw. Mae yr
un mor gartrefol yn yr opera a'r neuadd gyngerdd. Mae galw mawr amdano
fel artist gwadd yn y lleoliadau a'r gwyliau mwyaf nodedig yn y byd ac
mae ar hyn o bryd yn cynnal dwy opera yn Nhŷ Opera Metropolitan Efrog
Newydd. Bydd yn ôl yng Nghaerdydd i gynnal cynhyrchiad newydd o La Forza del Destino Verdi yn ogystal â Tosca yn rhaglen tymor Gwanwyn 2018 Opera Cenedlaethol Cymru. Rydym wrth ein bodd bod Carlo wedi cytuno i ymuno â ni ac, os oes gennych gwestiwn y byddech yn ei ofyn iddo, dylech ei gynnwys yn y gofod isod ar y ffurflen archebu. Mae hyn yn bendant yn achlysur peidio â cholli. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec at : Emrys Jones, 2 Pembroke Close, DINAS POWYS, Vale of Glamorgan, CF64 4PA. Tel: 029 2051 2812. Email: emrys_jones@hotmail.co.uk I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Holi Carlo Rizzi Dydd Sadwrn 13 Ionawr 2018 am 10.30yb yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa Cymru'). Enw(au) ………………………......……………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………….....……………………………………………………………………. Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… Fy nghwestiwn : ............................................................................................................................................... ................................................................................................................................................................... Cadarnhaf fy aelodaeth wedi ei thalu’n llawn o Cyfeillion Amgueddfa Cymru. |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |