![]() |
|

| Cyn-brifathro
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yw Hefin Mathias. Bu hefyd yn dysgu Hanes yno, a
chyn hynny, yn ysgolion Rhydfelen a Llanhari ar ôl dechrau ei yrfa fel
athro mewn ysgol y tu allan i Lundain. Cyhoeddodd yn helaeth a
gwerthfawr ym maes gwerslyfrau hanes ar gyfer ysgolion yng Nghymru, gan
gynnwys Prydain Rufeinig a Cymru a Phrydain yn y Byd Canoloesol
1066-1500. Bellach, ar ôl ei ymddeoliad, bu’n ymchwilio yn ddyfal a
brwdfrydig i gyfnod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Mae’n ddarlledwr
ac yn siaradwr hynod boblogaidd. Yn y sgwrs hon, bydd Dr. Mathias yn canolbwyntio ar waith yr Arglwydd Davies yn hyrwyddo heddwch ar draws y byd. Rhoes ei gefnogaeth yn ddiflino i brosiectau dyngarol megis Cynghrair y Cenhedloedd a’r Heddlu Rhyngwladol. Fel Gwendoline a Margaret ei chwiorydd iau, cynhaliodd draddodiad hiwmanitaraidd eu teulu o gyfrannu’n hael tuag at achosion da, yn lleol a chenedlaethol. Diddordeb arall o bwys iddo fu iechyd y cyhoedd, ac yn arbennig sefydlu ysbytài ar gyfer cleifion y diciâu. Gydag agor y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, gwelwyd dwyn ynghyd amryw o’i ddelfrydau o fewn i’r un sefydliad. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngol hwn, llenwch y daflen isod a’i hanfon erbyn Dydd Gwener 17 Awst gyda’ch siec at: Ann Saer, 15 Highfields, Llandaf CF5 2QA (ffôn: 029 2056 2756 ebost: annsaer15@gmail.com). I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Dr Hefin Mathias ‘Lord Davies of Llandinam and his Work in Promoting World Peace’ Dydd Mercher 22 Awst 2018 am 10.30yb yn Ystafelloedd Oriel, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa Cymru'). Enw(au) ………………………......……………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………….....……………………………………………………………………. Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… Cadarnhaf bod fy aelodaeth wedi ei thalu’n llawn o Cyfeillion Amgueddfa Cymru. |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |