![]() |
|

| Yn
y sgwrs ddifyr hon, bydd yr Athro Christine James yn trafod y ffyrdd y
portreadir y Cymry mewn rhigymau a cherddi Saesneg o’r oesoedd canol
ymlaen. Mae eu hymdriniaeth ddireidus a doniol wedi arwain at greu’r
ddelwedd stereoteip o’r Cymro a welir mewn darlun ar hyd yr oesoedd, yn
union fel sydd wedi digwydd gyda’r Gwyddel, y Sgotyn a chynrychiolwyr
gwledydd eraill y byd. Dyma gyfle, ar ddechrau 2019, i ystyried a yw’r
stereoteip yn parhau i fod yn ddilys! Yn frodor o Gwm Rhondda, dysgodd Christine y Gymraeg fel ail iaith, gan astudio am ddoethuriaeth ym maes testunau cyfraith Hywel Dda. Wedi cyfnod fel swyddog golygyddol ar Y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, bu’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Dysgodd amrywiaeth o bynciau yno cyn dod yn bennaeth ar yr Adran. Yn aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, ac yn Gymrodor o Lenyddiaeth Cymru, mae hi hefyd yn Brifardd a enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol 2005 am gerdd a ysbrydolwyd gan gasgliad argraffbeintio Amgueddfa Cymru. Fe’i hetholwyd yn Archdderwydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain am y cyfnod 2013 – 2016, a hi oedd y ferch gyntaf oll i ddal y swydd bwysig hon. Y tâl mynediad,i gynnwys coffi a bisgedi ar ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen llaw, a £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, dychwelwch y daflen isod gyda’ch siec at Janet Jones, Brayton, Llantwit Road, Creigiau Cardiff CF15 9NN erbyn dydd Iau, 3 Ionawr 2019. I arbed costau postio, ni fydd cydnabyddiaeth. Mae’r digwyddiad yn agored i’r cyhoedd hefyd am £10 y pen, felly croeso i chi ddod â’ch ffrindiau. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, dychwelwch y daflen isod erbyn dydd Iau, 3 Ionawr 2019 gyda’ch siec at: Janet Jones, Brayton, Llantwit Road, Creigiau Cardiff CF15 9NN . I arbed costau postio, ni fydd cydnabyddiaeth. Mae’r digwyddiad yn agored i’r cyhoedd hefyd am £10 y pen, felly croeso i chi ddod â’ch ffrindiau. I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan yr Athro Christine James: ‘Taffy was a Welshman…’ Sadwrn 5 Ionawr 2019 am 10.30 yb yn Theatr Ddarlithio Reardon Smith, Parc Cathays, Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa Cymru'). Enw(au) ………………………......……………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………….....……………………………………………………………………. Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… Cadarnhaf fy aelodaeth wedi ei thalu’n llawn o Cyfeillion Amgueddfa Cymru. |
||
|
| Amdanom ni | Gorffennol |
Digwyddiadau | Ymunwch |
English |