![]() |
|

| Mae
David Petersen, mab ieuengaf Jack Petersen, y Cymro cyntaf i fod yn
Bencampwr pywsau trwm Prydain, yn enwog am ddylunio ac adeiladu'r
Ddraig Goffa i'r 38ain Adran Gymreig yn Mametz Wood ym Mrwydr y Somme
ym 1916. Mae'r gofeb o ddraig goch yn dal wifr bachog, wedi'i osod ar
garreg sylweddol wedi'i leoli ar safle'r frwydr yng ngogledd Ffrainc. Mae'n adnabyddus hefyd, am ennill y gystadleuaeth i wneud Cerflun Cenedlaethol Goleuo'r Mileniwm ar gyfer dathliadau'r mileniwm. Gosodwyd y cerflun dur di-staen mawr yn gyntaf ar borth Neuadd Ddinas Caerdydd. Bu David yn gweithio yng ngwaith dur GKN yng Nghaerdydd cyn astudio celfyddyd gain yng Ngholeg Celf Casnewydd. Mae'n aelod etholedig o Academi Frenhinol y Cambria ac wedi gwasanaethu fel cadeirydd Cymdeithas Artistiaid Gofwyr Prydain. Bu'n ddarlithydd llawn amser mewn nifer o Golegau Celf yma yng Nghymru a Llundain, ac mae wedi darlithio'n rhyngwladol yn America, Canada, Rwsia, yr Almaen, Sbaen a Ffrainc. Mae wedi rhedeg ei stiwdios ei hun yng Nghymru ers sawl blwyddyn ac wedi cwblhau nifer o gomisiynau cerfluniau. Bu hefyd yn gyflwynydd teledu ar bynciau hanesyddol a diwylliannol; roedd yn Ymgeisydd dros Blaid Cymru yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol 1999 ar gyfer Etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ac ers sawl blwyddyn, arweinodd David y ddirprwyaeth Gymreig i Ŵyl Interceltique de Lorient yn Llydaw. |
||
|
Y tâl mynediad,i gynnwys coffi a bisgedi ar ôl y sgwrs, yw £8 i’r
Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen llaw, a £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, dychwelwch y daflen isod gyda’ch siec at: Gwen Williams, 57 Beulah Road CAERDYDD CF14 6LU; Ffôn: 029 2062 0094 Symudol: 07802 437316 E-bost: gwen.williams@friendsmuseumwales.org.uk. I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan y Cerflunydd David Petersen - 'My Life in Metal' Ddydd Sadwrn 16eg Chwefror 2019 am 10.30am DS yn y Ddarlithfa Cemeg, Prifysgol Caerdydd DS NID THEATR REARDON SMITH Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa Cymru'). Enw(au) ………………………......……………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………….....……………………………………………………………………. Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… Cadarnhaf fy aelodaeth wedi ei thalu’n llawn o Cyfeillion Amgueddfa Cymru. |
||
|
| Amdanom ni | Gorffennol |
Digwyddiadau | Ymunwch |