![]() |
|

| Sylwch, oherwydd ailwampio Darlithfa Reardon Smith, bydd y sgwrs hon yn digwydd yn y Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd.
Os byddwch yn mynd i'r Brifysgol trwy fynedfa Park Place, yna trowch yn
syth i'r chwith. Fe'ch cyfeirir wedyn at Ddarlithfa Wallace. Newidodd holl ganfyddiad Cerddoriaeth Brydeinig yma a thramor newid dros nos ar 17 Mehefin, 1899 yn dilyn premiere Amrywiadau "Enigma" yn Llundain. Roedd ffigwr taleithiol anghyffredin yn sydyn yn feistr rhyngwladol. Ond beth oedd y gerddoriaeth yn ei olygu mewn gwirionedd a sut a pham trawsnewidwyd tirwedd gerddorol Lloegr? Bydd y sgwrs hon yn archwilio rhai o'r cyfrinachau. Ganwyd Geraint Lewis yng Nghaerdydd ac wedi iddo fod yn Ysgolhaig Iau yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru aeth i ddarllen Cerddoriaeth yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt lle roedd yn ddisgybl o'r chwedlonol George Guest. Mae bellach yn dysgu, yn darlithio, yn ysgrifennu ac yn cyfansoddi ar ôl gyrfa amrywiol mewn academia, recordio a darlledu. Wedfi treulio dros ddegawd yn cyfarwyddo Gŵyl Gerdd Gogledd Cymru rhwng 1992-2004, mae bellach yn gyfarwyddwr artistig Gŵyl Machen Isaf ers mis Ionawr 2018. |
||
|
Y tâl mynediad,i gynnwys coffi a bisgedi ar ôl y sgwrs, yw £8 i’r
Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen llaw, a £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, dychwelwch y daflen isod gyda’ch siec at: Richard Carter, 2 Maes y Deri, Rhiwbina, Cardiff CF14 6JJ. Tel: 02920 620687 Ffôn: 029 2062 0687 E-bost: gwen.williams@friendsmuseumwales.org.uk. I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Geraint Lewis - 'Elgar and the Hidden Enigmas' Ddydd Sadwrn 23 Chwefror 2019 am 10.30am DS yn Darlithfa Wallace, Prifysgol Caerdydd DS NID THEATR REARDON SMITH Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa Cymru'). Enw(au) ………………………......……………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………….....……………………………………………………………………. Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… Cadarnhaf/awn bod fy/ein (h)aelodaeth Cyfeillion Amgueddfa Cymru wedi ei thalu’n llawn . |
||
|
| Amdanom ni | Gorffennol |
Digwyddiadau | Ymunwch |
English |