Dyma
ni unwaith eto wedi cyrraedd amser y flwyddyn, gyda'r Nadolig rownd y
gornel, i wahodd aelodau'r Cyfeillion i ymuno â ni ar ein hymweliad
blynyddol â Llundain. Byddwn yn gosod i lawr unwaith eto yn Amgueddfa
Victoria & Albert yn Knightsbridge. Mae'n leoliad canolog iawn lle
cawn amrywiaeth o leoedd a chyfle i fwynhau rhai o'r arddangosfeydd
tymhorol a gynhalir gan Harrods, Fortnam & Mason, Harvey Nichols
ayb, yn ogystal â'r nifer o amgueddfeydd ac orielau sydd wedi'u lleoli
yma.
Mae'r man gollwng wrth y V&A yn cynnig cyfle i
fynd i arddangosfa Mary Quant. Pris y tocynnau i'r digwyddiad hwn yw £
12.00 a gellir eu harchebu ar y wefan - gostyngiadau ar gael. Mae
arddangosfeydd eraill yn yr amguedddfa hefyd, gan gynnawys “Cars:
Accelerating the Modern World”, tocynnau £18 dros o'r we. Yn yr
Amgueddfa Brydeinig, mae'r arddangosfa “Inspired by the East – how the
Islamic World influenced Western art” gan ddechrau yn y 15fed ganrif ac
yn cloi gyda phersbectif yr 21ain ganrif, tocynnau £ 14.00 ar gael ar y
wefan. Mae arddangosfa o’r Academi Frenhinol yn archwilio gwaith
Anthony Gormley, un o gerflunwyr enwocaf y DU sy'n adnabyddus am ei
gerflun Angel y Gogledd yn Gateshead. Tocynnau £22.00 ar y we. Hefyd yn
dangos mae “Lucian Freud: the self portraits” casgliad o tua 50 o
baentiadau, printiau a lluniadau. Tocynnau £ 18.00 Gostyngiadauau ar
gael ar y ddau ddigwyddiad.
Dyma raglen y dydd;
8.00 Gadael Amgueddfa
Genedlaethol Cymru, Parc Cathays
8.15 Codi teithwyr yn
Wild Gardens Road, Parc y Rhath
12.00 yh Cyrraedd V&A (yn
fras)
5.00 yh Gadael am Gaerdydd
Cost y diwrnod sy’n cynnwys y bws, a tip y gyrrwr
yw £30.00.
I ymuno â ni, anfonwch siec, yn daladwy i : ‘Cyfeillion Amgueddfa
Cymru’ a ffurflen wedi’i llenwi at:
Dorn Swaffield,
Lower House Barns, Michaelston-le-Pit, Dinas Powys, Vale of Glamorgan.
CF64 4HE.
Ffôn: 029 2051 3956. Ebost: mail dorn@friendsmuseumwales.org.uk
Cofiwch
amgáu amlen barod â stamp os nad oes gennych
gyfeiriad E-bost.
Archebwch yn gynnar os gwelwch yn dda: mae angen i ni lenwi'r coets i'n galluogi rhedeg y daith am y pris ac os ydym yn fring, efallai bydd yn rhaid i ni ganslo.
|