Mae teithiau o gwmpas Tŷ Darlledu BBC Cymru Wales,
Llandaf, yn gyfyngedig iawn ac rydym wedi archebu'r tair taith sydd ar
gael ddydd Mawrth, 5 Chwefror 2019. Mae pob taith wedi'i gyfyngu i dim
ond 14 o bobl ac fe'i cynhelir ar yr adegau canlynol: 10.30 am, 1.00 pm
a 3.00 pm a phob un yn para 1.5 awr. Mae'r daith yn cynnwys cerdded
pellter pell o gwmpas yr adeilad mawr gyda chyfnodau o sefyll wrth
wrando ar y canllawiau. Mae BBC Cymru Wales yn adeilad gweithredol,
felly nid oes sicrwydd pwy na beth fyddwch chi'n ei weld ar ddiwrnod
eich ymweliad, ac mae rhai dyddiau'n fwy prysur nag eraill. Mae
teithiau'n cael eu cynnal yn ystod yr amserau a ddewiswyd i ganiatáu
mynediad mwyaf at ardaloedd stiwdio pan fyddent fel arall yn cael eu
defnyddio. Mae'n annhebygol y byddwch yn gweld unrhyw sioeau mewn
cynhyrchiad am y rheswm hwn, ond efallai y byddwch yn gweld Crimewatch,
Cymru Heddiw, BBC Radio Wales / Cymru, BBC Radio Cymru, Drama
Rhyngweithiol Radio, Newyddion a'r Tywydd.
GWYBODAETH PWYSIG YNGLŶN Â'R DAITH
DIOGELWCH Dylech
gyrraedd 15 munud cyn dechreuad eich taith er mwyn caniatáu i'r holl
wiriadau diogelwch gael eu cynnal cyn iddi ddechrau. Bydd angen eich
chwilio chi'n bersonol a hefyd eich bag. Peidiwch â dod ag eitemau nad
ydynt yn hanfodol a dewch â cyn lleied â phosibl gyda chi. Dim ond
bagiau bach, gan gynnwys bagiau llaw (o dan 40cm x 35cm x 19cm - tua
maint taflen A3 o bapur) sy'n cael eu caniatáu ar y daith. Mae Eitemau
Gwaharddedig yn cynnwys bagiau cefn a bagiau siopa mawr a nodwch nad
oes cyfleusterau storio dros dro ar gyfer bagiau nad ydynt yn cael eu
caniatáu. PROFI HUNANIAETH Rhaid i chi gyflwyno rhywbeth gyda'ch
llun arno sy'n profi eich hunaniaeth (Pasbort neu Drwydded Yrru) i'ch
gwirio ar gyfer y daith.
TREFNIADAU TEITHIO: - Bydd rhaid i chi wneud eich trefniadau teithio eich hunan.
Ar y trên:
Gorsaf reilffordd Danescourt yw’r agosaf i BBC Caerdydd. Gadewch yr
orsaf o allanfa Ffordd Llantrisant; trowch i'r chwith wrth yr allanfa a
cerddwch i lawr Llantrisant Road am tua 5 munud a bydd BBC Tŷ Darlledu
BBC Cymru Wales ar eich chwith. Mae trenau'n rhedeg bob hanner awr o
orsaf Ganolog Caerdydd i orsaf Danescourt.
Ar y Bws:
mae bws Caerdydd rhif 63 yn rhedeg bob 20 munud o Westgate Street yng
nghanol y dref ac yn stopio y tu allan i BBC Cymru Wales Llandaff.
Parcio Ceir:
mae'r maes parcio'n brysur yn ystod yr wythnos waith, felly nid oes
sicrwydd y bydd llefydd. Gwnewch eich trefniadau parcio eich hunan a
byddwch yn ymwybodol bod yr ardal leol yn breswyl, a dyna pam y
cynghorir trafnidiaeth gyhoeddus.
BWYD A DIOD: - Yn anffodus nid oes unrhyw gyfleusterau lluniaeth cyhoeddus ym mhrif adeilad BBC Cymru Wales.
COST: Cost yr ymweliad yw £12.50. Os hoffech ymuno â'r ymweliad hwn,
anfonwch siec yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa Cymru', ynghyd â'r
ffurflen wedi'i llenwi i:
Dr Peter Davies, 54 Duffryn Avenue, Cyncoed, Cardiff, CF23 6JL.
Telephone: 029 2075 1473. Mobile: 07443 425201 E-mail: drpmdavies@icloud.com
|