Amdanom ni
Sgwrs
Digwyddiadau Ymunwch
Saesneg



Sadwrn 17 Awst 2016
am 10.30yb yn Ystafelloedd Oriel,
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd  CF10 3NP


Sustainable agriculture

Delwedd: Journal of the North Atlantic

‘The Archaeology of Sustainable Agriculture’

Sgwrs gan yr Athro Siwan Davies, Prifysgol Abertawe


Mae Dr Erika Guttmann-Bond yn ddarlithydd lled-ymddeoledig mewn Archeoleg. Bu gynt yn addysgu ym Mhrifysgolion Reading, Caerdydd a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a bu ganddi Gadair mewn Archeoleg Dirwedd yn y Vrije Universiteit, Amsterdam.

Yn sgîl y llifogydd, tswnamiau a thrychinebau naturiol a welwyd yn ystod y blynyddoedd diweddar, rhoddwyd cryn sylw i fethiant y dulliau rheoli tir a arferid yn y gorffennol, a’r effaith andwyol ganlyniadol ar yr amgylchedd. Ond mae llwyddiannau’r gorffennol yr un mor bwysig. Gall sustemau hynafol brofi’n fwy gwydn a hefyd yn fwy cynaliadwy yn wyneb eithafion amgylcheddol.

Yn gynyddol, mae technegau amaethyddol cynnar yn cael eu hailddarganfod a’u rhoi ar waith. Yn ei sgwrs, dadleua Dr Guttmann-Bond fod y mwyaf effeithiol ymhlith sustemau rheoli tir yn aml yn gyfuniad o dechnegau hynafol a chyfoes.
Y tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen llaw, neu £10 wrth y drws.

Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec at Ann Saer, 15 Highfields, Llandaf, Caerdydd CF5 2QA (ffôn 029 2056 2756; ebost annsaer@talktalk.net) erbyn dydd Gwener 12 Awst.

I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws).  Bydd croeso cynnes iddynt.

Cyfeillion Amgueddfa Cymru
 
Sgwrs gan Dr Erica Guttmann-Bond: ‘The Archaeology of Sustainable Agriculture’

Sadwrn 17 Awst 2016 yn Ystafelloedd Oriel,
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd


Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i Cyfeillion Amgueddfa Cymru).

Enw(au) ………………………......………………………………………………………………………

Cyfeiriad ………………………….....…………………………………………………………………….

Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost …………………………………



Lawrlwytho'r manylion hyn a ffurflen archebu   (rhaid i chi fod yn Gyfaill i dderbyn y pris gostyngedig)



Mae Cyfeillion Amgueddfa Cymru yn aelod cyswllt o Gymdeithas Cyfeillion Amgueddfeydd Prydain (BAfM)

Cliciwch yma os ydych am  ymuno â Chyfeillion yr Amgueddfa

Rhif cofrestru fel elusen 701990

Amdanom ni Digwyddiadau Gorffennol
Ymunwch
Saesneg