![]() |
|
| A
Chymru yn dathlu canmlwyddiant ei harlunydd mwyaf llwyddiannus a
chynhyrchiol, Syr Kyffin Williams, RA, eleni, bydd David Meredith,
Cadeirydd Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams, yn talu teyrnged i’w
arwr, Syr Kyffin - John Kyffin Williams - neu, i ddefnyddio ei hoff enw
iddo’i hun, yn syml iawn, ‘Kyffin.’ Ganwyd Syr Kyffin yn Llangefni, Sir Fôn, ym 1918, ac yn ystod ei fywyd hir, cwblhaodd Syr Kyffin filoedd o luniau mewn cyfnod yn ymestyn dros 60 mlynedd. Bu Kyffin yn arlunio ar raddfa helaeth yng Nghymru, Yr Alban, Iwerddon a Lloegr, a hefyd yn yr Eidal, yn Ffrainc, gwlad Groeg ac yn Awstria, a gwneud ymweliad trawiadol ym 1968/69 i gofnodi pobl, tir, anifeiliaid a ffawna Patagonia - Y Wladfa yn Ne America. Yn ei araith i Gymdeithas Cyfeillion yr Amgueddfa Genedlaethol, bydd David Meredith yn rhoi sylw arbennig i un o hoff leoliadau arlunio tramor, Kyffin - Fenis, y ddinas swynol y bu’r arlunydd yn ymweld â hi yn gyntaf ym 1950 ac am y tro olaf yn 2004, dwy flynedd cyn ei farwolaeth yn 2006. Cafodd David Meredith y fraint o fynd gyda Kyffin ar ei ymweliad olaf â Fenis – ymweliad mae’n ystyried yn ddigwyddiad enfawr yn ei fywyd. Gyda dau gasgliad helaeth o’i waith wedi eu rhoi gan Kyffin i Oriel Môn yn Llangefni ac i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, mae Syr John Kyffin Williams RA yn cael ei gydnabod fel un o gymwynaswyr mwyaf Cymru. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd
yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws.
Er mwyn manteisio ar y pris gostynedig hwn, llenwch y daflen isod a’i hanfon erbyn Dydd Mercher, 12 Medi 2018 gyda’r siec at: Kathleen Jones, 18 Heol Wen, Rhiwbeina, Caerdydd CF14 6EG [ ffôn: 029 20627897]. I arbed costau postio, ni fydd cydnabyddiaeth. Gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am £10 y pen mae ‘na groeso cynnes i bawb. I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan David Meredith ‘Yng nghwmni Syr Kyffin Williams o Gader Idris i gamlesi Fenis’ Dydd Sadwrn 15 Medi 2018 am 10.30 yb Darlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd Carwn ichi gadw ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa Cymru'). Enw(au) ………………………......……………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………….....……………………………………………………………………. Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… Cadarnhaf bod fy aelodaeth wedi ei thalu’n llawn i Gyfeillion Amgueddfa Cymru. |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |